Lleoliad:
O bell drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Chwefror 2022
Amser:
13.00 -
15.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12725
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Mike Hedges AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Jake Smith, Gofalwyr Cymru Catrin Edwards, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Kate Griffiths, Y Groes Goch Brydeinig |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 Ymchwiliad i ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau trydydd sector
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr sefydliadau’r trydydd sector.
3 Ymchwiliad i ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda’r sector tai
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r sector tai.
3.2 Cytunodd Chris Jones – Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio
– i ddarparu'r ffigyrau diweddaraf ar y galw gan gleifion am
gefnogaeth gan y gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach.
3.3 Cytunodd Chris Jones i ddarparu gwybodaeth a data i'r Pwyllgor ynghylch arferion rhyddhau o’r ysbyty, a graddau'r oedi ledled Cymru.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Ymateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
4.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a phrif weithredwyr byrddau iechyd ynghylch a fyddai cyllid yn cael ei ddarparu yn 2022-23 ar gyfer y gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach.